Anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes
Oelcloth patrwm carthen
Ffordd wych o adnewyddu'r bwyrdd bwyd
Yn arbennig i ti
Nwyddau wedi'u personoli
Ysgwyddo'r baich
Bagiau ysgwydd a sachau cefn
Sêl Clirio Cardiau
prisiau o 10c!
Set o lwyau pren a ffedogau ymarferol a deniadol wedi'u gwneud â llaw yn ein oelcloth patrwm carthen. Cyfle i wneud campweithiau yn y gegin gyda'ch plentyn! Anrheg perffaith ar gyfer rhieni a neiniau a teidiau.
Set yn cynnwys un ffedog oedolyn ac un ffedog plentyn yn yr un lliw, llwy bren 25cm a llwy bren 20cm. Wedi'u cyflwyno mewn bocs anrheg.
Dewis o bump lliw.
Maint ffedog oedolyn tua 70 x 82cm. Rhwymau gwasg 50cm pob ochr. Maint ffedog plentyn tua 42 x 55cm. Rhwymau gwasg 47cm pob ochr. Golchwch gyda chadach.
Arbennig i Adra.