Anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes
Oelcloth patrwm carthen
Ffordd wych o adnewyddu'r bwyrdd bwyd
Yn arbennig i ti
Nwyddau wedi'u personoli
Ysgwyddo'r baich
Bagiau ysgwydd a sachau cefn
Sêl Clirio Cardiau
prisiau o 10c!
**Gwerth £540 pan yn ei brynu fesul metr. Prynwch rolyn cyfan ac arbed 35%**
Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon mewn lliw hufen.
Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes. 100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl sgleiniog o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau.
Lled tua 142cm, hyd y rôl tua 20m. Pan yn mesur eich byrddau, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus. Does dim angen hem arno, a gellir ei dorri'n hawdd â siswrn miniog.
Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.
Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra
£540.00