Help a Chyngor

Archebion
Taliadau
Cludiant
Dychwelyd
Cyfrif
Ein siop
Dod yn gyflenwr

ARCHEBION

Sut mae prynu rhywbeth?

Gallwch osod eich archeb ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rhowch yr eitemau y mae arnoch eisiau eu prynu yn eich bag. Gallwch fynd at eich bag ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon bag siopa ar ochr dde'r sgrin. Os oes gennych gyfrif wedi'i gofrestru gyda ni eisoes, mewngofnodwch i'ch cyfrif ac yna ewch ymlaen i dalu.

Os ydych yn gwsmer newydd neu'n westai, fe gewch opsiwn i greu cyfrif neu fynd yn syth trwy’r broses dalu.

Byddem yn argymell eich bod yn creu cyfrif gan y bydd hyn yn eich galluogi i gadw llygad ar statws eich archeb a gweld hanes eich archebion.

Yn y ddau achos, bydd angen i chi nodi'r manylion sydd eu hangen i gwblhau eich archeb (h.y. y cyfeiriad cludo a'ch cyfeiriad e-bost).

A allaf archebu dros y ffôn

Os na allwch archebu ar ein gwefan, gallwch archebu drwy ein ffonio ar 01286 831353 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 5pm. Byddem yn argymell eich bod yn archebu eitemau wedi eu personoli ar ein gwefan er mwyn i chi gael sicrhau bod y sillafiad yn gywir.

Sut fyddaf i'n gwybod eich bod wedi derbyn fy archeb?

Byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost cadarnhau gan Adra ar ôl i'ch archeb gael ei gosod yn llwyddiannus. Os nad ydych wedi derbyn y neges e-bost, edrychwch yn eich ffolder post sothach. Os ydych wedi creu cyfrif ar ein gwefan, gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif a gweld yr holl archebion yr ydych wedi eu gwneud.

A allaf ychwanegu eitemau at orchymyn presennol?

Na ellwch, yn anffodus, oherwydd ein nod yw anfon eich archeb mor gyflym â phosib. Os ydych yn dymuno prynu eitem arall, bydd angen i chi wneud archeb newydd.

A allaf ganslo archeb unwaith y bydd wedi ei gwneud?

Gallwch ganslo eich archeb hyd at y pwynt y bydd yn cael ei chyflawni. Os yw'ch archeb eisoes wedi'i chyflawni, yn anffodus, ni allwn ei chanslo ond gallwch ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Rhaid canslo archebion am eitemau wedi eu personoli o fewn 24 awr i wneud yr archeb ac ni ellir eu dychwelyd unwaith y bydd yr archeb wedi ei chyflawni, oni bai bod nam ar yr eitem neu fod yr archeb yn anghywir.

A allaf newid fy nghyfeiriad cludiant unwaith y bydd fy archeb wedi cael ei gwneud?

Dim ond yn fuan ar ôl gwneud archeb y gallwn newid y cyfeiriad cludiant, felly ffoniwch ni ar 01286 831353 cyn gynted ag y bo modd i weld a allwn wneud hynny i chi.

Hoffwn brynu eitem fel anrheg, a fydd y pris i’w weld ar yr anfoneb?

Mae ein nwyddau yn gwneud anrhegion perffaith a gallwn eu hanfon yn syth at y derbynydd - yn syml, rhowch gyfeiriad cludo gwahanol ar y dudalen talu. Gallwch ychwanegu neges anrheg wrth brynu, ni fydd prisiau eitemau yn cael eu harddangos ar yr anfoneb pan mae archeb yn cael ei anfon at rhywun arall.

TALIADAU

Pa ddulliau talu mae Adra yn eu derbyn?

Rydym yn derbyn y cardiau credyd a debyd canlynol: Visa, MasterCard, American Express, Maestro/Solo, Visa Debit/Electron. Rydym hefyd yn derbyn taliadau trwy PayPal.

Sut ydw i'n cyfnewid tocyn anrheg, neu’n manteisio ar ostyngiad neu gynnig arbennig?

Os oes gennych god gostyngiad neu gerdyn anrheg, gallwch fewnbynnu’r cod yn y blwch Cod Gostyngiad wrth dalu.

Sut alla i brynu tocyn anrheg i rywun arall?

Gallwch brynu ein Cardiau Anrheg yma. Mae gennym ddau fath newydd o gerdyn anrheg – rhai electronig sydd yn cael eu e-bostio yn syth at y derbynnydd a rhai ar gerdyn y gallwch eu cyflwyno i'r derbynnydd yn y cnawd. Mae modd gwario'r ddau ar ein gwefan ac yn ein siop. Mae cludiant am ddim ar pob cerdyn anrheg.

(Ar gyfer Tocynnau Anrheg brynwyd cyn 21 Hydref 2020, nodwch y telerau a'r amodau sydd ar y tocyn ei hun os gwelwch yn dda)

CLUDIANT

Pa opsiynau cludiant ydych chi'n eu cynnig yn y DU?

Mae gwahanol opsiynau cludiant y gallwch eu dewis:

• Cludiant i'ch cartref (neu unrhyw gyfeiriad arall o'ch dewis): Yn dechrau o £2.50
• Casglu o’r siop: Am ddim

Faint mae cludiant yn ei gostio a phryd fydd yr eitemau’n cyrraedd?

Anelwn at anfon eitemau sydd mewn stoc cyn gynted ag y byddwn yn derbyn eich archeb, fel arfer o fewn 1-2 ddiwrnod gwaith. Cludir archebion gan y Post Brenhinol neu Parcelforce.

Bydd eitemau sydd wedi'u personoli neu sy'n cael eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer yn cymryd rhagor o amser, gweler y cynnyrch neilltuol am fanylion. Os yw eich archeb yn cynnwys cymysgedd o eitemau wedi'u personoli ac eitemau o'n stoc, mae'n bosib y bydd eich archeb yn cael ei dal yn ôl hyd nes y bydd y pethau i'w personoli yn barod i'w hanfon. Bydd rhai eitemau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwyr ar ran Adra.

Cludiant yn y DU: (yn cynnwys Ynysoedd y Sianel)

Archebion £10 neu lai - £2.50 - 2-3 diwrnod
Archebion rhwng £10.01 a £59.99 - £4.95 - 2-3 diwrnod
Archebion dros £60 - AM DDIM - 1-3 diwrnod

Cludiant Rhyngwladol:

Cyfrifir y gost yn ôl pwysau’r eitemau yn eich basged. Nid yw pob eitem yn addas i’w anfon dramor oherwydd eu maint, eu pwysau neu natur y deunydd. Mae'n bosib y bydd angen talu trethi a thollau mewnforio ar ben arall y daith. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch swyddfa tollau leol i gael rhagor o wybodaeth cyn gosod eich archeb.

Ewrop
£5 - £16 (uchafswm 2kg)
3-5 diwrnod, Post Awyr Rhyngwladol

Parth Byd 1
£9.50 - £29 (uchasfwm 2kg)
3-5 diwrnod, Post Awyr Rhyngwladol

Parth Byd 2
£9.50 - £29 (uchasfwm 2kg)
3-5 diwrnod, Post Awyr Rhyngwladol

Parth Byd 3 (UDA)
£12 - £29 (uchasfwm 2kg)
3-5 diwrnod, Post Awyr Rhyngwladol

Sut allaf i weld a yw fy archeb wedi cael ei hanfon eto?

Os ydych wedi creu cyfrif, gallwch wirio statws eich archeb trwy fewngofnodi ar y wefan a mynd i'r adran Fy Nghyfrif.

Oes modd tracio fy mharsel?

Mae'r gallu i dracio parseli yn amrywio yn dibynnu ar werth, maint, pwysau a chyrchfan y parsel.

Mae modd tracio pob archeb dros £30 o werth yn y DU.

Bydd yr e-bost sy’n cadarnhau fod yr archeb wedi ei hanfon yn cynnwys cod tracio y gallwch ei ddefnyddio i olrhain eich archeb. Nid oes modd tracio archebion cludiant rhyngwladol.

Ydych chi'n cynnig cludiant tramor?

Ydyn, ond ni allwn anfon pob eitem oherwydd eu maint, eu pwysau neu natur eu deunydd. Amcangyfrifir costau cludiant tramor ar gyfer archebion hyd at 2kg yn eich basged siopa. Os yw cynnwys eich basged yn fwy na 2kg, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael amcangyfrif o bris y cludiant.

DYCHWELYD

A allaf ddychwelyd eitem?

Hyderwn y byddwch wrth eich bodd â'ch cynnyrch i'r un graddau â ni. Fodd bynnag, os digwydd i chi beidio, mae gennych 30 diwrnod ar ôl derbyn eich archeb i ofyn am gael ei dychwelyd. 

Rhaid i bob eitem fod heb ei ddefnyddio yn ei gwreiddiol, heb ei ddefnyddio ynghyd â derbynneb neu brawf o bryniant.

I gychwyn y broses ddychwelyd, cysylltwch â ni ar help@adrahome.com i ofyn am ffurflen ddychwelyd a chyfarwyddiadau ar sut i anfon eich parsel. Ni dderbynnir eitemau a anfonir yn ôl atom heb ofyn yn gyntaf am ffurflen. 

Difrod neu broblemau

Os yw eich nwyddau wedi eu difrodi, yn wallus neu'n anghywir, cysylltwch â ni yn syth fel y gallwn werthuso a chywiro'r sefyllfa.

Eithriadau / Eitemau na ellir eu dychwelyd

Ni ellir dychwelyd rhai mathau o eitemau - mae'r rhain yn cynnwys nwyddau darfodus (fel bwyd), nwyddau arbennig (fel archebion wedi eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer neu eitemau wedi'u personoli), a nwyddau gofal personol (fel cynnyrch croen, gorchuddion wyneb a chlustdlysau tyllog). Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu bryderon am eich eitem benodol. Yn anffodus, ni fedrwch ddychwelyd eitemau oedd ar sêl na chardiau anrheg. 

Cyfnewid

Y ffordd gyflymaf o sicrhau eich bod yn cael yr hyn yr ydych am ei gael yw dychwelyd yr eitem sydd gennych, ac unwaith mae hwnnw wedi ei dderbyn, gwnewch bryniant ar wahân ar gyfer yr eitem newydd.

Ad-daliadau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith y byddwn wedi derbyn ac arolygu eich eitem ddychwelyd. Os wedi ei gymeradwyo, cewch eich ad-dalu'n awtomatig ar eich dull talu gwreiddiol. Cofiwch y gall gymryd peth amser i'ch banc neu gwmni cardiau credyd brosesu'r ad-daliad hefyd.

A allaf ddychwelyd fy archeb ar-lein i'r siop?

Gallwch, mi allwch ddychwelyd eitemau rydych wedi eu prynu trwy www.adrahome.com i'n siop yng Nglynllifon ond rhaid gofyn am ffurflen ddychwelyd cyn gwneud.

CYFRIF

Oes angen i mi sefydlu cyfrif i wneud archeb?

Nac oes, does dim angen i chi fod â chyfrif i siopa gyda ni ar-lein. I brynu heb gofrestru, defnyddiwch y dewis i dalu fel gwestai.
Mae manteision i gofrestru ar-lein, dyma rai ohonynt:

• Gwneud prynu yn y dyfodol yn gyflymach gan na fydd angen i chi byth lenwi gwybodaeth eich cyfrif eto
• Gallu olrhain statws eich archeb gyfredol yn hwylus a gweld hanes eich archebion

Sut alla i greu cyfrif?

Mae cofrestru cyfrif ar ein gwefan yn hawdd iawn. Cliciwch ar y botwm Mewngofnodi a llenwch y ffurflen gyda'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost a dewiswch gyfrinair.

Dim ond munud o’ch amser y bydd creu cyfrif yn ei gymryd ac ni fydd angen i chi byth lenwi eich manylion eto. Yn yr adran Fy Nghyfrif, gallwch hefyd gael mynediad at eich manylion, cyfeiriadau a gwybodaeth talu, lle gallwch eu golygu yn ogystal â gwirio hanes eich archebion.

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair

Os ydych chi wedi anghofio'ch cyfrinair, cliciwch ar Wedi anghofio eich cyfrinair? Ar y dudalen mewngofnodi / cofrestru. Byddwn yn anfon e-bost atoch sy'n cynnwys dolen i osod cyfrinair newydd.

Ni allaf fewngofnodi i'm cyfrif - beth allaf ei wneud?

Os ydych yn cael problemau mewngofnodi i'ch cyfrif, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’r cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair cywir ar gyfer eich cyfrif presennol. Os ydych chi'n parhau i gael problemau wrth fewngofnodi, anfonwch neges atgoffa ‘Wedi anghofio eich cyfrinair’ i’ch cyfeiriad e-bost er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych yr e-bost a'r cyfrinair cywir ar gyfer mewngofnodi. Am fwy o help, cysylltwch â ni.

Sut alla i wirio manylion a gwybodaeth fy nghyfrif?

Mae gwirio manylion eich cyfrif, cyfeiriadau, hanes eich archebion a’ch tanysgrifiad i’r cylchlythyr yn hawdd iawn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi a mynd i adran Fy Nghyfrif.

A yw fy ngwybodaeth yn ddiogel ac yn breifat?

Yn Adra, rydym yn gofalu ein bod yn amddiffyn eich preifatrwydd ac yn diogelu'ch gwybodaeth. Ni fyddwn byth yn datgelu eich manylion personol i drydydd partïon.

EIN SIOP YNG NGLYNLLIFON

Ble mae'r siop?

Mae'n siop wedi'i lleoli mewn hen felin goed sy'n adeilad wedi'i restru ac yn llawn cymeriad ym Mharc Glynllifon ger pentref Llandwrog ar yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli.

Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, ger Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY

Beth yw oriau agor y siop?

Oriau Agor yr Haf (Ebrill i Medi):

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos
Dydd Llun tan ddydd Sadwrn: 10am-5pm
Dydd Sul: 11am-4pm

Oriau Agor y Gaeaf (Hydref i Mawrth):

Ar agor 4 diwrnod yr wythnos, a phob dydd yn ystod gwyliau hanner tymor ysgol. Hefyd ar agor pob dydd drwy gydol mis Rhagfyr.
Dydd Iau tan ddydd Sadwrn: 10am-5pm
Dydd Sul: 11am-4pm

DOD YN GYFLENWR I ADRA

Sut ydw i'n dod yn gyflenwr?

Rydym wastad yn chwilio am gyflenwyr newydd er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei werthu o hyd yn gyffrous. Rhaid i bopeth yr ydym yn ei werthu fod naill ai’n wedi ei wneud yng Nghymru, wedi ei gynllunio gan ddylunwyr o Gymru neu'n gwneud nodwedd o’r iaith Gymraeg. Os yw'ch cynnyrch yn cyd-fynd â'n meini prawf, anfonwch wybodaeth ynghyd â lluniau a phrisiau atom i'w hystyried trwy ein tudalen Cysylltu â Ni.