Polisi cludiant

DIWEDDARIADAU COVID-19
Ewch i'n tudalen Help a Chyngor am fanylion y newidiadau i'n prosesau a'n hameroedd cludo arferol.

Anelwn i anfon eitemau sydd mewn stoc cyn gynted ag y byddwn yn derbyn eich archeb, fel arfer o fewn 1-2 ddiwrnod gwaith. Cludir archebion gan y Post Brenhinol neu Parcelforce.

Bydd eitemau sydd wedi'u personoli neu sy'n cael eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer yn cymryd rhagor o amser, gweler y cynnyrch neilltuol am fanylion. Os yw eich archeb yn cynnwys cymysgedd o eitemau wedi'u personoli ac eitemau o'n stoc, mae'n bosib y bydd eich archeb yn cael ei dal yn ôl hyd nes y bydd y pethau i'w personoli yn barod i'w hanfon. Bydd rhai eitemau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwyr ar ran Adra.

CLUDIANT YN Y DU (yn cynnwys Ynysoedd y Sianel)

Archebion £10 neu lai £2 2-3 diwrnod
Archebion £10.01 to £49.99 £4.50 2-3 diwrnod
Archebion dros £50 AM DDIM 1-3 diwrnod


CLUDIANT RHYNGWLADOL

Cyfrifir y gost o bostio parseli hyd at 2kg yn eich basged. Os yw cynnwys eich basged yn fwy na 2kg, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael amcanbris. Nid yw pob eitem yn addas i'w anfon dramor oherwydd eu maint, eu pwysau neu natur y deunydd.

Ewrop £5-£15

3-5 diwrnod Post Awyr Rhyngwladol

Parth Byd 1 £6-£24

5-7 diwrnod Post Awyr Rhyngwladol; Canada, Canol a De America, Affrica, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a De Ddwyrain Asia.

Parth Byd 2 £7.50-£30

5-7 diwrnod Post Awyr Rhyngwladol; Awstralasia

Parth Byd 3 £8.50-£30

5-7 diwrnod Post Awyr Rhyngwladol; UDA

CASGLU O'R SIOP

Gallwch archebu o hwylustod eich cartref a chasglu eich harcheb o'n siop yng Nglynllifon heb dalu pris cludiant. Dewiswch 'Casglu o'r Siop' fel modd cludiant. Byddwn yn anfon ebost atoch pan fydd eich harcheb yn barod i'w chasglu.