Job opportunities
Come and work with us!
Swyddog Cynnwys a Marchnata Digidol
Ydych chi’n greadigol, yn frwdfrydig am gyfryngau digidol ac yn awyddus i helpu brand Cymreig llwyddiannus i dyfu?
Mae Adra yn chwilio am unigolyn i arwain ar waith marchnata a chyfathrebu’r busnes, gan greu cynnwys Cymraeg a Saesneg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, y wefan, cylchlythyrau ac ymgyrchoedd marchnata. Bydd y rôl yn cynnwys adrodd stori Adra, datblygu syniadau creadigol newydd, creu ffotograffiaeth a fideo, a helpu i dyfu presenoldeb digidol y brand. Mae hwn yn gyfle i weithio'n agos gyda thîm bach cyfeillgar a chwarae rhan ganolog yn natblygiad busnes Cymreig annibynnol sydd wedi adeiladu enw cryf ledled Cymru ac ar-lein.
Prif gyfrifoldebau
· Cynllunio a rheoli calendr cynnwys ar draws cyfryngau cymdeithasol, y wefan, cylchlythyrau e-bost ac ymgyrchoedd marchnata.
· Creu cynnwys Cymraeg a Saesneg sy’n adrodd stori Adra, yn amlygu cynnyrch ac yn cadw llais y brand yn gyson.
· Tynnu a golygu ffotograffau a fideos, ac ysgrifennu disgrifiadau cynnyrch i cefnogi gwaith e-fasnach y busnes.
· Datblygu syniadau creadigol ar gyfer ymgyrchoedd, lansiadau cynnyrch, dathliadau a digwyddiadau.
· Cadw golwg ar berfformiad cynnwys ac ymgyrchoedd, gan ddefnyddio data i gryfhau’r hyn sy’n gweithio.
· Cefnogi gwasanaeth cwsmeriaid, gwaith dyddiol y siop a phrosiectau arbennig fel rhan o dîm bach mewn busnes prysur.
Manylion
Cyflog: £28,000-£32,000 pro rata
Oriau: 4 diwrnod yr wythnos (gyda’r posibilrwydd o’u hymestyn yn y dyfodol, neu eu rhannu dros 5 diwrnod)
Lleoliad: Parc Glynllifon ger Caernarfon
Dyddiad cau: 19 Awst 2026
I weld y Swydd Ddisgrifiad ac i lenwi Ffurflen Gais, cliciwch ar y botwm 'Ymgeisiwch Yma' isod.
As a proud Welsh business, Adra is seeking someone who can create engaging content and communicate confidently in both
Welsh and English. Welsh language skills are therefore essential.
Cefnogir y cyfle hwn drwy Elfen gyrfaol Llwyddo'n Lleol 2050
Golyga hyn bod y cyfle hwn ar gyfer unigolion rhwng 18 a 35 oed sydd â chysylltiad â Gwynedd neu Ynys Môn, e.e. drwy fyw yn yr ardal neu gydag awydd i ddychwelyd adra. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael mynediad at gefnogaeth datblygiad personol a gyrfaol ychwanegol drwy'r cynllun, ac yn dod yn un o lysgenhadon Llwyddo’n Lleol.