anrhegion i athrawon
Dangoswch eich gwerthfawrogiad o waith caled ac ymroddiad athrawon a chymhorthwyr gyda chasgliad Adra o anrhegion Cymreig i athrawon.
P’un a ydych yn chwilio am gofrodd fechan neu anrheg gan y dosbarth cyfan, mae gennym gasgliad unigryw o anrhegion wedi’u gwneud â llaw gan gynhyrchwyr annibynnol ledled Cymru.
O lyfrau nodiadau wedi'u personoli i lyfrnodau Cymreig; hamperi moethus i siocledi; rhowch fyg neu fat diod gyda’r sloganau "Athro Gorau" neu "Athrawes Orau".
A thrwy ddewis anrheg o Adra, rydych yn cefnogi gwneuthurwyr lleol ledled Cymru.