Ein Siop yng Nglynllifon
Os hoffech weld ein nwyddau mewn cig a gwaed, beth am i chi ymweld â’n siop ger Caernarfon?
Mae'n siop wedi'i lleoli ym mharc gwledig Parc Glynllifon tu allan i Gaernarfon, mewn hen felin goed sy'n adeilad wedi'i restru ac yn llawn cymeriad.
Mae ein holl gynnyrch ar gael i'w prynu yn ogystal â chasgliadau o nwyddau nad ydynt ar gael ar ein gwefan.
Defnyddiwch ein gwasanaeth archebu a chasglu cyfleus - archebwch ar y wefan a chasglu eich nwyddau o'r siop yn rhad ac am ddim.
DIWEDDARIADAU COVID-19
Cofiwch ymgyfarwyddo â chanllawiau diweddaraf Cymru cyn ymweld.
Diolch am eich cefnogaeth!
- Does dim rhaid gwisgo gorchudd wyneb pan tu mewn i'r siop bellach, ond mae croeso i chi wneud os ydych chi'n dymuno.
- Mae diheintydd dwylo'n dal ar gael.
- Er mwyn lles pawb, plis peidiwch â dod i'r siop os oes gennych symtomau'r feirws. Ewch i siopa arlein neu dewch i'n gweld rhywbryd eto pan fyddwch yn well!
Ewch am dro o amgylch y gerddi, dewch i'r siop yna ewch am baned a chacen i'r caffi cyfagos. Edrychwn ymlaen i'ch gweld!
ORIAU AGOR YR HAF (EBRILL I MEDI)
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos
Dydd Llun tan ddydd Sadwrn: 10am-5pm
Dydd Sul: 11am-4pm
ORIAU AGOR Y GAEAF (HYDREF I MAWRTH, AC EITHRIO TACHWEDD A RHAGFYR)
Ar agor 4 diwrnod yr wythnos, a phob dydd yn ystod gwyliau hanner tymor ysgol.
Dydd Iau tan ddydd Sadwrn: 10am-5pm
Dydd Sul: 11am-4pm
BLE MAE'R SIOP?
Mae'r siop ar yr A499 - ffordd Pwllheli :
Parc Glynllifon
Ffordd Clynnog
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5DY