Cludo a Dychwelyd

Anelwn i anfon eitemau sydd mewn stoc cyn gynted ag y byddwn yn derbyn eich archeb, fel arfer o fewn 1-2 ddiwrnod gwaith. Cludir archebion gan y Post Brenhinol neu Parcelforce.

Bydd eitemau sydd wedi'u personoli neu sy'n cael eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer yn cymryd rhagor o amser, gweler y cynnyrch neilltuol am fanylion. Os yw eich archeb yn cynnwys cymysgedd o eitemau wedi'u personoli ac eitemau o'n stoc, mae'n bosib y bydd eich archeb yn cael ei dal yn ôl hyd nes y bydd y pethau i'w personoli yn barod i'w hanfon. Bydd rhai eitemau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwyr ar ran Adra.

CLUDIANT YN Y DU (yn cynnwys Ynysoedd y Sianel)

Archebion llai na £10 £2.95 2-3 diwrnod
Archebion £10 i £59.99 £4.95 2-3 diwrnod
Archebion £60 a mwy AM DDIM 1-3 diwrnod

CLUDIANT RHYNGWLADOL

Cyfrifir y gost o bostio parseli tramor yn eich basged. Nid yw pob eitem yn addas i'w anfon dramor oherwydd eu maint, eu pwysau neu natur y deunydd ac mae'n bosib y nydd angen i chi gysylltu â ni am wybodaeth pellach. Mae'n debygol y bydd angen talu trethi a thollau mewnforio ar ben arall y daith. Os ydych yn gwsmer wedi ei leoli ym Mhrydain ac eisiau prynu anrheg i'w anfon at berson sydd mewn gwlad dramor, mae'n bosib y byddai'n well i chi ei bostio atynt eich hunain gan fod pob parsel sy'n cael ei anfon gan fusnes fel Adra yn cael ei drethu ar ddiwedd ei daith, boed yn anrheg neu beidio. Nid yw unigolion sy'n postio anrhegion i wledydd tramor eu hunain fel arfer yn gorfod talu trethi neu dollau. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch swyddfa tollau leol i gael rhagor o wybodaeth cyn gosod eich archeb.

Ar gyfer archebion i'r Undeb Ewropeaidd, bydd cost o €3 yn cael ei ychwanegu am bob eitem o ganlyniad i reoliadau newydd o 1 Gorffennaf 2026. Ni ellir ad-dalu'r doll yma hyd yn oed os yw'r eitemau yn cael eu dychwelyd neu heb gyrraedd pen eu taith. Bydd y tollau perthnasol yn daladwy cyn i'r archeb gael eu hanfon.  Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r cyfanswm, neu mae croeso i chi gysylltu gyda ni gael cadarnhad cyn i chih osod yr archeb.

Ar gyfer archebion i UDA, bydd rhaid ychwanegu taliad tariff o 10-30% ar werth eich archeb. Byddwn yn cysylltu â chi cyn anfon eich archeb, neu mae croeso i chi gysylltu gyda ni i gael cadarnhad o gyfanswm y gost cyn gosod eich archeb. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw gostau eraill pan fydd eich archeb yn cyrraedd.

Ewrop

Yn cychwyn o £5 yn dibynnu ar gyfanswm pwysau eich archeb
3-5 diwrnod, Post Awyr Rhyngwladol

Parth Byd 1

Yn cychwyn o £9.50 yn dibynnu ar gyfanswm pwysau eich archeb
5-7 diwrnod Post Awyr Rhyngwladol; Canada, Canol a De America, Affrica, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a De Ddwyrain Asia.

Parth Byd 2

Yn cychwyn o £9.50 yn dibynnu ar gyfanswm pwysau eich archeb
5-7 diwrnod, Post Awyr Rhyngwladol; Awstralasia

Parth Byd 3
Yn cychwyn o £9.50 yn dibynnu ar gyfanswm pwysau eich archeb
5-7 diwrnod Post Awyr Rhyngwladol; UDA

CASGLU O'R SIOP

Gallwch archebu o hwylustod eich cartref a chasglu eich harcheb o'n siop yng Nglynllifon heb dalu pris cludiant. Dewiswch 'Casglu o'r Siop' fel modd cludiant. Byddwn yn anfon ebost atoch pan fydd eich harcheb yn barod i'w chasglu. Mae oriau agor, cyfeiriad a chyfarwyddiadau i'r siop ar y dudalen help a chyngor.

Dychwelyd

Hyderwn y byddwch wrth eich bodd â'ch cynnyrch i'r un graddau â ni. Fodd bynnag, os digwydd i chi beidio, mae gennych 30 diwrnod ar ôl derbyn eich archeb i ofyn am gael ei dychwelyd atom.

Rhaid i bob eitem fod heb ei ddefnyddio yn ei bacediad gwreiddiol, ynghyd â'r derbynneb neu brawf o bryniant.

I gychwyn y broses ddychwelyd, cysylltwch â ni ar help@adrahome.com i ofyn am ffurflen ddychwelyd a chyfarwyddiadau ar sut i anfon eich parsel.

Difrod neu broblemau

Os yw eich nwyddau wedi eu difrodi, yn wallus neu'n anghywir, cysylltwch â ni yn syth fel y gallwn werthuso a chywiro'r sefyllfa. Anfonwch luniau at help@adrahome.com yn dangos y nam yn glir a pheidiwch a difrodi neu gael gwared ag unrhyw gynnyrch neu ddeunydd pacio cyn rydych wedi siarad â ni, rhag ofn i hynny effeithio unrhyw ad-daliad sy'n daladwy i chi.

Eithriadau / Eitemau na ellir eu dychwelyd

Ni ellir dychwelyd rhai mathau o eitemau - mae'r rhain yn cynnwys nwyddau darfodus (fel bwyd), nwyddau arbennig (fel archebion wedi eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer neu eitemau wedi'u personoli), a nwyddau gofal personol (fel cynnyrch croen, gorchuddion wyneb a chlustdlysau tyllog). Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu bryderon am eich eitem benodol. Yn anffodus, ni fedrwch ddychwelyd eitemau oedd ar sêl na chardiau anrheg.

Cyfnewid

Y ffordd gyflymaf o sicrhau eich bod yn cael yr hyn yr ydych am ei gael yw dychwelyd yr eitem sydd gennych, ac unwaith mae hwnnw wedi ei dderbyn, gwnewch bryniant ar wahân ar gyfer yr eitem newydd.

Ad-daliadau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith y byddwn wedi derbyn ac arolygu eich eitem ddychwelyd. Os wedi ei gymeradwyo, cewch eich ad-dalu'n awtomatig ar eich dull talu gwreiddiol. Cofiwch y gall gymryd peth amser i'ch banc neu gwmni cardiau credyd brosesu'r ad-daliad hefyd.