Telerau ac Amodau

Mae’r Wefan hon yn eiddo i Adra ac yn cael ei gweithredu gan Adra. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni:

Ffôn: +44 (0)1286 831353; neu
e-bost: helo@adrahome.com; neu
ysgrifennwch at:
Adra (Cymru) Cyf.
Uned 3 Parc Glynllifon
Ffordd Clynnog
Caernarfon
Gwynedd
LL54 5DY

1. TELERAU AC AMODAU CONTRACT

Yn y Telerau ac Amodau hyn (oni bai bod y cyd-destun yn gofyn yn benodol fel arall) mae gan y geiriau canlynol yr ystyron canlynol:

Mae "Adra" yn golygu Adra (Cymru) Cyf. (Rhif Cwmni: 6271008) sydd â’i gyfeiriad cofrestredig yn 8 Beddgwenan, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5LL;
Mae "Contract" yn golygu’r cytundeb rhwng Adra a’r Prynwr ar gyfer pryniant yr eitemau gan ymgorffori’r Telerau ac Amodau hyn;
Golyga "Eitemau" yr eitemau sy’n cael eu cyflenwi neu eu caffael gan Adra a’u prynu gan y Prynwr ar delerau’r Contract, fel y manylir yn yr Archeb neu ar y Wefan;
Golyga “Eiddo Deallusol” unrhyw a phob nod masnach, hawliau cynllun cofrestredig neu heb eu cofrestru, patrymau o’r DU neu rai estron, hawlfraint, gwybodaeth gyfrinachol, enwau busnes neu fasnach, hawliau bas data, gallu, technoleg a hawliau eiddo deallusol eraill (ac unrhyw gymwysiadau ar gyfer y rhain) prun ai ydynt wedi eu cofrestru neu peidio mewn unrhyw wlad;
Golyga ”Archeb” yr archeb prynu sy’n cynnwys manylion yn ymwneud â’r eitemau;
Mae’r "Prynwr” yn golygu’r person, y ffyrm, cwmni neu sefydliad arall sy’n prynu’r eitemau gan Adra; ac
Mae “Gwefan” yn golygu unrhyw wefan a weithredir gan Adra o bryd i’w gilydd er mwyn gwerthu eitemau.

2. SAIL Y CONTRACT

2.1 Ymgorfforir y Telerau ac Amodau hyn ym mhob Contract gan Adra er mwyn gwerthu’r Eitemau a dyma’r unig amodau y bydd Adra yn delio arnynt gyda’r Prynwr. Eithrir pob telerau, amodau neu gynrychioliadau eraill o’r Contract, gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau y gall y Prynwr awgrymu eu cymhwyso o dan unrhyw Gontract a’r Telerau ac Amodau hyn fydd flaenaf ac yn rheoli’r Contract er mwyn eithrio yn llwyr unrhyw delerau clir neu ymhlyg (i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith).

2.2 Drwy archebu Eitemau gan ddefnyddio’r Wefan, mae’r Prynwr yn cytuno i ymrwymo i’r Telerau ac Amodau hyn.

2.3 Nid yw’r Telerau ac Amodau hyn yn effeithio hawliau statudol y Prynwr.

2.4 Ni fydd unrhyw ddatganiad, disgrifiad, gwybodaeth, sicrwydd neu argymhelliad a gynhwysir mewn unrhyw gatalog, rhestr brisiau, hysbyseb neu gyfathrebu neu a wneir ar lafar gan unrhyw un o asiantau, cynrychiolwyr neu gyflogai Adra yn cael ei ddehongli’n wahanol mewn unrhyw ffordd i unrhyw un o’r telerau ac amodau o dan y Contract.

2.5 Mae’r holl ddarluniau a gynhwysir ar y Wefan at ddibenion darluniadol yn unig ac fe’i bwriedir yn unig er mwyn rhoi disgrifiad cyffredinol ac/neu drosolwg o’r Eitemau a ddisgrifir yno ac nid ydynt yn rhan o’r Contract.

2.6 Bydd unrhyw brisiad ysgrifenedig, amcangyfrif ac/neu bris a hysbysebir yn wahoddiad i drafod ac ni fydd unrhyw gontract ymrwymedig yn cael ei chreu drwy roi Archeb ar y Wefan neu fel arall.

2.7 Mae’r holl Archebion a wneir gan y Prynwr drwy gyfrwng y Wefan neu fel arall yn gyfystyr â chynnig i brynu’r Eitemau. Ni fydd cynnig o’r fath yn cael ei ystyried i gael ei dderbyn gan Adra hyd nes ei fod wedi anfon cadarnhad danfon i’r Prynwr. Ni fydd unrhyw gydnabyddiaeth o’r Archeb a anfonir gan Adra i’r Prynwr boed hynny ar lafar neu yn ysgrifenedig yn gyfystyr â derbyn cynnig y Prynwr.

2.8 Bydd y Contract yn berthnasol ddim ond i’r rhai hynny sydd â’u hanfoniad wedi ei gadarnhau gan Adra yn eu cadarnhad o ddanfoniad. Ni fydd gan Adra ddyletswydd i gyflenwi unrhyw Eitemau eraill allai fod wedi bod yn rhan o’r Archeb hyd nes y bydd danfoniad Eitemau o’r fath wedi ei gadarnhau mewn cadarnhad danfoniad ar wahân.

2.9 Mae cyfeiriad at unrhyw ddeddf neu ddarpariaeth statudol yn cynnwys cyfeiriad at y ddeddf neu’r ddarpariaeth statudol fel y caiff ei newid, ei ymestyn neu ei ailddeddfu o dro i dro.

2.10 Mae gan Adra hawl llawn i amrywio’r Telerau ac Amodau hyn o dro i dro ac ar ei ddewis ei hun am ba bynnag reswm gan gynnwys, ond heb gyfyngiadau, newidiadau yng nghyflwr y farchnad; newidiadau mewn technoleg; newidiadau mewn dulliau talu; newidiadau mewn deddfau neu anghenion deddfwriaethol perthnasol a newidiadau yng ngalluoedd ei systemau.

3. STATWS CWSMERIAID

Drwy wneud archeb drwy ein safle, mae’r Prynwr yn sicrhau ei fod ef/hi:

3.1 yn gyfreithiol y gallu mynd i gontract ymrwymedig; ac

3.2 yn o leiaf 18 oed.

4. CYWIRDEB Y CYNNWYS

Tra mae Adra’n ymdrechu i sicrhau bod disgrifiadau, atgynhyrchiadau ffotograffig a manylion Eitemau ar y Wefan yn gywir, gallai fod rhai amrywiadau yn sgil y broses atgynhyrchu ffotograffig, meddalwedd y rhyngrwyd neu’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir a natur gwaith llaw rhai Eitemau. Ni fydd Adra yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw amrywiad o’r fath neu ganlyniadau hynny.

5. DANFON

5.1 Bydd unrhyw amser neu ddyddiad a roddir ar gyfer danfon Eitemau prun ai ydyw wedi ei nodi yn yr Archeb neu beidio, a roddir gan Adra yn cael ei gymryd fel amcan a wnaed gan Adra mewn ffydd ond ni fydd yn ymrwymo Adra fel telerau’r contract neu fel arall.

5.2 Nid yw amser danfon yn bwysig at bwrpas y Contract ac ni fydd Adra yn atebol i unrhyw golled neu ddifrod a gafodd y Prynwr o ganlyniad i unrhyw fethiant i ddanfon o fewn amser penodol neu erbyn dyddiad penodol neu o ganlyniad i’r oedi sut bynnag y’i hachoswyd.

5.3 Ni fydd Adra yn atebol am oedi yn y danfon a achoswyd gan eu dosbarthwyr neu unrhyw drydydd parti.

5.4 Bydd risg yn yr Eitemau’n cael ei drosglwyddo i’r Prynwr ar adeg dosbarthu i’r Prynwr a bydd y Prynwr yn yswirio’r Eitemau yn erbyn colled a difrod gan dân a phob risg arall y mae posibl yswirio yn ei erbyn o’r adeg honno nes y bydd y pris amdano wedi ei dalu yn llawn ac arian wedi clirio. Bydd y Prynwr yn dal ar ymddiriedaeth dros Adra unrhyw arian yswiriant a dderbyniwyd o ganlyniad i golled neu ddifrod o’r fath.

5.5 Pan fydd eitemau wedi eu danfon fesul rhan o dan y Contract bydd pob rhan yn cael ei hystyried i gael ei gwerthu o dan Gontract ar wahân ac ni fydd unrhyw fethiant ar ran Adra o ran danfon rhan benodol neu unrhyw wallau mewn gwneuthuriad neu ddefnyddiau sy’n effeithio ar unrhyw ran yn rhoi’r hawl i’r Prynwr wadu’r Contract o ran unrhyw rannau sydd i’w danfon neu wrthod neu atal taliad am unrhyw Eitemau a ddanfonwyd.

5.6 Bydd y Prynwr yn cytuno nad yw Adran 32(3) o Gwerthu Eitemau Nwyddau 1979 yn gymwys i’r Eitemau a anfonir gan Adra.

6. RHYBUDD O BEIDIO DANFON, PRINDER NEU NWYDDAU WEDI EU DIFRODI

6.1 Bydd y Prynwr yn rhoi gwybod i Adra am unrhyw brinder neu ddifrod i Eitemau a ddanfonwyd o fewn 24 awr o’r danfoniad neu gasgliad, a bydd hysbysiad o’r fath yn cael ei gadarnhau mewn ysgrifen gan y Prynwr o fewn 7 diwrnod i’r danfon.

6.2 Ni fydd unrhyw gyfrifoldebau am brinder neu ddifrod yn cael eu derbyn gan Adra pe bai’r Prynwr yn methu rhoi gwybod i Adra am hynny o fewn y cyfnod a nodwyd.

6.3 Os yw personoli Eitem yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad gan Adra, neu os yw Eitem yn ddiffygiol wrth gyrraedd, bydd Adra yn cynnig ad-daliad llawn neu’n cynnig Eitem yn ei lle am y pris sylfaenol.

7. TROSGLWYDDO HAWL

7.1 Bydd perchnogaeth yr Eitemau yn parhau gydag Adra yn unig hyd nes y bydd y Prynwr wedi talu’r pris y cytunwyd arno i Adra yn llawn a’r arian wedi clirio am yr holl Eitemau o dan y Contract ac unrhyw gontract arall rhwng y partïon.

7.2 Mae’r Prynwr yn cydnabod bod y Prynwr yn meddu ar yr Eitemau fel derbynnydd i Adra yn unig hyd nes y bydd eu pris wedi ei dalu yn llawn a’r arian wedi clirio i Adra o dan Gymal 7.1 uchod.

8. PRIS

8.1 Mae’r holl brisiau a nodir yn cynnwys TAW ac oni bai bod hynny wedi ei nodi’n benodol, fe’u seilir ar gostau cyfredol ar y dyddiad prisio.

8.2 Mae’r Prynwr yn gyfrifol am dalu’r holl gostau sy’n ymwneud â danfon, pacio a threthi ac ardoll perthnasol eraill yn ymwneud â’r eitemau.

8.3 Gall prisiau’r Eitemau gael eu hamrywio er mwyn cymryd i ystyriaeth amrywiadau mewn llafur, deunyddiau neu gostau eraill ers dyddiad prisiad Adra neu (os na chyhoeddir prisiad) Archeb y Prynwr. Mae Adra’n cadw’r hawl i addasu’r pris ar yr anfoneb sy’n daladwy yn ôl swm y cynnydd neu’r gostyngiad mewn costau o’r fath wedi i’r pris gael ei nodi a bydd yr anfoneb wedi ei addasu yn daladwy fel pe bai’n bris gwreiddiol y Cytundeb.

9. TALIADAU

9.1 Mae’r holl brisiau a nodir ar y wefan mewn punnoedd sterling (£). Bydd pris Eitem fel y’i nodir ar y Wefan o dro i dro, ac eithrio mewn achosion o gamgymeriad amlwg.

9.2 Mae’r Wefan yn cynnwys nifer fawr o Eitemau ac mae’n bosibl o hyd, er gwaethaf ymdrechion gorau Adra, y bydd rhai Eitemau a restrir ar y Wefan wedi eu prisio’n anghywir. Bydd Adra fel arfer yn gwirio’r pris fel rhan o’r gweithdrefnau dosbarthu fel, pan fydd pris cywir Eitem yn is na’r pris a nodir ar y Wefan, bydd y Prynwr yn talu’r pris lleiaf o’r ddau yma. Os yw pris cywir Eitem yn uwch na’r pris a nodir ar y Wefan, bydd Adra, yn ôl ei benderfyniad ei hun, naill ai’n cysylltu â’r Prynwr am gyfarwyddiadau cyn dosbarthu’r Eitem sydd wedi ei phrisio’n anghywir, neu yn gwrthod yr Archeb o ran yr Eitem hon ac yn rhoi gwybod i’r Prynwr am hynny.

9.3 Mae Adra’n derbyn taliadau drwy Visa, MasterCard, Maestro/Solo, Visa Debit/Electron, American Express neu PayPal.

9.4 Os yw’r Prynwr yn siopa o’r tu allan i’r DU, bydd cwmni cerdyn credyd y Prynwr yn trosi’r gweithrediad i arian lleol y Prynwr. Cyfrifoldeb y Prynwr yn unig fydd unrhyw daliadau ychwanegol a ddioddefir yn sgil trosi arian o’r fath. Cyfrifoldeb y Prynwr fydd unrhyw ddyletswyddau tollau neu fewnforio a godir unwaith y bydd yr Eitem yn cyrraedd pen ei daith yng ngwlad y Prynwr gan nad oes gan Adra unrhyw reolaeth dros y taliadau hyn ac ni all eu rhagweld.

9.5 Bydd cerdyn credyd/debyd y Prynwr yn cael ei awdurdodi pan yn gosod yr Archeb.

9.6 Mae prisiau Eitemau a chyflenwad ohonynt yn gallu newid yn ddirybudd ond ni fydd newidiadau’n effeithio ar archebion o ran y rhai mae Adra wedi anfon cadarnhad eu dosbarthu. Ychwanegir cost postio a phacio at yr Archeb fel y nodir ar y Wefan.

9.7 Anfonir e-bost i gadarnhau pethau pan fydd Archeb wedi ei gosod ac eto pan fydd Archeb o’r fath wedi ei dosbarthu.

9.8 Os bydd y Prynwr yn methu gwneud taliadau pan fyddant yn daladwy, gall Adra ar ei ddewis ei hun ac yn ddiduedd i unrhyw hawliau neu welliannau eraill allai fod ganddo o dan y contract:

9.8.1 atal unrhyw ddanfoniad pellach nes y gwneir taliad; ac/neu

9.8.2 gwadu’r Contract;

A bydd gan Adra’r hawl i godi llog (cyn ac ar ôl dyfarnu) ar y balans sydd yn weddill o’r holl gyfrifon sy’n ddyledus o ddyddiad yr anfoneb hyd amser taliad wedi ei gyfrifo ar gyfradd ddyddiol ar raddfa o 4% yn uwch na’r raddfa sylfaenol o dro i dro o Fanc Barclays Plc.

9.9 Mae amser gwneud taliadau yn hanfodol at ddibenion y Contract.

9.10 Ni fydd gan y Prynwr yr hawl i ddal yn ôl ar daliad o unrhyw faint sy’n daladwy o dan y Contract (neu unrhyw gontract arall rhwng y partïon) oherwydd achos sy’n cael ei ddadlau gan y Prynwr o ran nwyddau diffygiol neu unrhyw dor-contract arall, ac ni all y Prynwr gael yr hawl i ddal hyn yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy o dan y Contract (neu unrhyw gontract arall rhwng y partïon) i Adra unrhyw arian sydd neu sydd wedi eu dynodi yn daladwy i Adra.

10. CYFLENWI NWYDDAU A DILEU ARCHEBION

10.1 Gall y Prynwr ddileu Archeb am unrhyw reswm cyn belled nad yw’r Eitemau wedi eu dosbarthu. Os yw’r Eitemau wedi eu dosbarthu, bydd y weithdrefn a nodir yng nghymal 11 isod yn cael ei chymhwyso.

10.2 Ar gyfer Eitemau sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer, gall y Prynwr newid neu ddileu Archeb o fewn 24 awr wedi cydnabod bod Archeb o’r fath wedi ei hanfon. Mae Adra’n cadw’r hawl i godi 100% o’r gost am unrhyw Eitem sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar eich cyfer pe bai’r dileu yn digwydd ar ôl 24 awr. Er mwyn dileu archeb, cysylltwg ag Adra trwy'r dudalen Cysylltu a Ni neu ffoniwch Adra ar 01286 831353 rhwng 10:00 yb -5:00 yh, dydd Llun i ddydd Gwener.

11. DYCHWELYD

11.1 Os yw’r Prynwr yn contractio fel Defnyddiwr (fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Amddiffyn Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000), gall y Prynwr ddileu’r Contract a dychwelyd yr Eitemau o fewn un deg pedwar diwrnod gwaith, gan gychwyn ar y diwrnod ar ôl danfon y Cynnyrch. Yn yr achos hwn, bydd y Prynwr yn derbyn ad-daliad llawn o’r pris a dalwyd am yr Eitemau yn unol â’n polisi ad-daliadau. Nid yw darpariaethau rheoliadau Amddiffyn Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000 yn addas ar gyfer nwyddau personol ac ni fydd Adra yn cynnig ad-daliadau ar Eitemau o’r fath (oni bai bod Eitemau o’r fath yn ddiffygiol).

11.2 Rhaid dychwelyd Archebion a ddilëwyd i Adra ar unwaith, yn yr un cyflwr y cawsant eu derbyn gan y Prynwr ac ar gost a risg y Prynwr ei hun. Mae gan y Prynwr ddyletswydd cyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o’r Eitemau tra’u bod yn ei feddiant/ ei meddiant.

11.3 Rhaid i bob Eitem gaiff ei dychwelyd fod heb ei defnyddio ac yn ei phaciau gwreiddiol.

11.4 Pan fydd Prynwr yn dychwelyd Eitem i Adra:

11.4.1 oherwydd bod y Prynwr wedi dileu’r Contract yn unol â Chymal 11.1 uchod, bydd Adra’n prosesu’r ad-daliad sy’n ddyledus i’r Prynwr cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl ac o dan unrhyw amgylchiadau, o fewn 30 diwrnod i’r Prynwr roi rhybudd o ddileu. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd Adra’n ad-dalu pris yr Eitem yn llawn. Fodd bynnag, bydd y Prynwr yn gyfrifol am gost dychwelyd yr Eitem i Adra.

11.4.2 Os mai’r rheswm dros ddychwelyd yr Eitem yw bod y Prynwr yn credu bod yr Eitem yn ddiffygiol, bydd Adra’n cynnal profion sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn profi a yw’r Eitem yn gweithio. Os, wedi cynnal profion o’r fath, y daw Adra i’r canlyniad bod yr Eitem o ansawdd derbyniol o fewn ystyr y Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979 fel y’i diwygiwyd, ni fydd Adra o dan unrhyw rwymedigaeth i gynnig unrhyw ad-daliad a gall yn ôl ei benderfyniad ei hun, ddewis naill ai:

11.4.2.1 gynnig ad-daliad rhannol neu ad-daliad llawn fel y tybia sy’n addas;

11.4.2.2 anfon yr Eitem wreiddiol yn ôl i’r Prynwr ar gost y Prynwr; neu

11.4.2.3 weithredu camau rhesymol eraill fel y bydd Adra’n tybio sy’n addas.

11.5 Wrth ddychwelyd Eitemau, cyfrifoldeb y Prynwr yw trefnu a thalu am ddychwelyd yr Eitemau i Adra. Dylai’r Prynwr sicrhau bod pob parsel wedi eu selio a’u gwarchod yn ddigonol a bod y Prynwr wedi cwblhau a chynnwys ffurflen ddychwelyd.

11.6 Mae Adra yn argymell yn gryf bod y Prynwr yn cael prawf postio ar gyfer unrhyw Eitemau gaiff eu dychwelyd gan na all Adra dderbyn cyfrifoldeb dros Eitemau sydd wedi mynd ar goll neu wedi eu difrodi wrth gael eu cludo.

11.7 Ni fydd costau postio a phacio a ddaw i ran y Prynwr mewn cysylltiad ag Eitemau a ddychwelir, yn cael eu had-dalu oni bai bod y nwyddau’n ddiffygiol neu wedi eu difrodi.

11.8 Am resymau hylendid ni all Adra ad-dalu na newid clustdlysau tyllog.

12. GWERTHIANT DRWY’R WEFAN

12.1 Ni roddir caniatâd i gopïo, atgynhyrchu, addasu na lawrlwytho’r Wefan neu unrhyw ran o safle o’r fath ac yn benodol ni ellir atgynhyrchu unrhyw beth ar safle o’r fath ar gyfer ei ddefnyddio mewn unrhyw gyhoeddiad, neu ei ddosbarthu at unrhyw bwrpas heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Adra.

12.2 Bwriedir unrhyw wybodaeth a geir ar y Wefan fel canllaw yn unig a gellir newid yr eitemau a’r prisiau ynddi yn ddirybudd. Ni roddir unrhyw gynrychiolaeth na sicrwydd ynglŷn â chyflawnder neu gywirdeb unrhyw wybodaeth ar y Wefan na bod gwybodaeth o’r fath yn gyfredol.

12.3 Pan fydd y Wefan wedi ei gor-gysylltu ag unrhyw safle a weithredir gan drydydd parti, nid yw Adra’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb o ran unrhyw gynnyrch, gwasanaeth, deunydd neu wybodaeth ar safle o’r fath. Ni fydd presenoldeb safle o’r fath yn golygu bod Adra’n cymeradwyo nac yn ardystio safle o’r fath.

12.4 Nid fydd Adra’n atebol am ddifrod i, neu firysau allai effeithio, unrhyw offer cyfrifiadurol, meddalwedd, data neu eiddo arall o ganlyniad i fynd ar y Wefan, neu chwilio’r Wefan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd, testun neu lun.

12.5 Ni fydd Adra’n atebol am unrhyw ddifrod, colled, costau, neu wariant a ddioddefir gan y Prynwr o ganlyniad i unrhyw amser lawr (sef y cyfnod pan na fydd y Wefan ar gael at ddefnydd y Prynwr am pa reswm bynnag) ar y Wefan.

13. EIDDO DEALLUSOL

13.1 Cedwir pob hawl Eiddo Deallusol a gynhwysir mewn deunyddiau neu wybodaeth ar y Wefan ym mherchnogaeth Adra neu berchennog cofrestredig Eiddo Deallusol o’r fath.

13.2 Nid yw cyflenwi unrhyw Eitemau o dan y Contract yn cyflwyno unrhyw hawliau i’r Prynwr ddefnyddio unrhyw Eiddo Deallusol gan Adra heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Adra a bydd Eiddo Deallusol o’r fath yn aros ym meddiant Adra bob amser. Nid yw cyflenwi Eitemau o dan y Contract yn awgrymu unrhyw hawl i’r Prynwr ddefnyddio unrhyw Eiddo Deallusol sydd gan Adra nac unrhyw indemniad yn erbyn torri hawliau Eiddo Deallusol trydydd partïon gan Adra.

14. ATEBOLRWYDD

14.1 Ni fydd Adra na’i gyflogwyr, asiantau neu isgontractwyr, yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath (ar wahân i farwolaeth neu niwed personol o ganlyniad i esgeulustod Adra) boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i golli elw, colli busnes, gwacâd ewyllys da neu fel arall) a achoswyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan unrhyw esgeulustod neu weithred gamweddus arall neu anwaith neu dorri dyletswydd statudol ar ran Adra neu ar ran unrhyw un o’i weithwyr, asiantau neu isgontractwyr mewn cysylltiad ag neu’n codi o’r Contract neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad a roddir neu a wneir (neu gyngor na roddir neu na wneir) gan neu ar ran Adra (ar wahân i gynrychioliad a wneir drwy dwyll). Cymerir y cymal hwn gan Adra fel ymddiriedolwr dros ei weithwyr, asiantau a’i isgontractwyr.

14.2 Mae Adra, drwy hyn, yn eithrio i’r graddau llawnaf a ganiateir yn ôl y gyfraith, holl amodau, sicrwydd ac amodiad, clir neu ymhlyg, statudol, arferol neu fel arall, oni bai am eithriad o’r fath, fyddai neu allai ymgynnal o blaid y Prynwr.

14.3 Bydd y Prynwr yn indemnio ac yn cadw Adra wedi ei indemnio rhag unrhyw golled, costau, gwariant, ceisiadau, hawliadau (neu mewn unrhyw fodd arall o gwbl) a ddioddefir gan Adra mewn cysylltiad ag unrhyw weithred neu ddiffygdalu ar ran y Prynwr yn ymwneud â’r Contract.

14.4 Nid yw Adra’n gwneud unrhyw gynrychiolaeth na sicrwydd nad yw defnyddio’r Eitemau yn torri hawliau unrhyw drydydd parti ac nid yw Adra’n derbyn unrhyw atebolrwydd yn hyn o beth.

15. DIFFYGDALU NEU FETHDALIAD PRYNWR

Pe digwyddai fod:

15.1 y Prynwr fod yn torri unrhyw un o’i rwymedigaethau o dan y Contract; neu

15.2 unrhyw atafaeliad neu weithrediad yn cael ei godi ar eiddo neu asedau’r Prynwr; neu

15.3 y Prynwr (yn unigolyn neu’n bartneriaeth) yn gwneud neu’n cynnig gwneud unrhyw gytundeb gwirfoddol neu gyfansoddiad gyda’i gredydwyr neu’n dod yn fethdalwr neu pe cai unrhyw ddeiseb methdaliad ei chyflwyno yn ei erbyn; neu

15.4 gan y Prynwr (a hwnnw’n gwmni) dderbyniwr gweinyddol neu weinyddwr wedi ei apwyntio neu’n gwneud trefniant gyda’i gredydwyr neu’n cychwyn cael ei ddirwyn i ben; neu

15.5 fel arall os yw’r Prynwr yn methu â thalu ei ddyledion ar yr adeg y maent yn ddyledus, bydd Adra ar ei ddisgresiwn ei hun yn unig, a heb duedd tuag at unrhyw hawl arall neu gais, yn terfynu’r Contract ar unwaith, yn llawn neu yn rhannol.

16. NATUR GAFFAELADWY’R WEFAN

16.1 Er bod Adra’n anelu at gynnig y gwasanaeth gorau posibl, ni all Adra warantu y bydd y Wefan heb ddiffygion. Pe digwydd diffyg ar y Wefan, dylai’r Prynwr adrodd amdano wrth y Gwasanaeth Cwsmeriaid (gweler uchod am fanylion cyswllt) neu drwy e-bost at helo@adrahome.com a bydd Adra yn ceisio cywiro’r diffyg cyn gynted ag y bydd yn rhesymol i Adra wneud hynny.

16.2 Gall mynediad y Prynwr at y Wefan gael ei gyfyngu’n achlysurol er mwyn caniatáu i waith trwsio, cynnal a chadw a chyflwyno cyfleusterau neu wasanaethau newydd ddigwydd. Bydd Adra’n ceisio adfer y Wefan cyn gynted ag sy’n rhesymol iddo wneud.

17. DEFNYDD RHYNGWLADOL

Os yw’r Prynwr yn dewis mynd ar y Wefan o leoliadau y tu allan i’r Deyrnas Unedig, bydd y Prynwr yn gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol.

18. FORCE MAJEURE

18.1 Bydd gan Adra’r hawl i oedi neu atal danfon neu leihau swm yr Eitemau a ddanfonir pe y’i rhwystrir, llesteirir neu oedir rhag cyflenwi, cael neu ddanfon yr Eitemau drwy unrhyw amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth rhesymol, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i streiciau, cloi allan, damweiniau, rhyfel, tân, lleihad neu ddiffyg pŵer yn y man cynhyrchu, offer neu beiriant yn torri neu brinder llafur neu lafur a deunyddiau crai ddim ar gael o’r ffynhonnell arferol ac ni fydd Adra’n gyfrifol i’r Prynwr am unrhyw golled o ganlyniad i hyn neu ddifrod a ddioddefir gan y Prynwr.

18.2 Os bydd perfformio’r Contract gan Adra yn cael ei rwystro gan unrhyw amgylchiadau ‘force majeure’, bydd gan Adra’r hawl i gael ei ryddhau o berfformiad pellach o’r Contract ac atebolrwydd o dan y Contract. Os yw Adra’n gweinyddu’r fath hawl, bydd y Prynwr yn talu pris y Contract gan dynnu lwfans rhesymol am ran o’r Contract nad yw wedi ei gyflawni gan Adra.

19. AMRYWIAD

Ni fydd unrhyw amrywiad neu addasiadau i’r Contract yn orfodol oni bai eu bod wedi eu cofnodi’n ysgrifenedig a’u harwyddo gan Adra a’r Prynwr.

20. ILDIAD HAWL

Ni fydd ildiad hawl gan Adra neu fethiant Adra i arfer unrhyw hawl neu fynnu perfformiad caeth unrhyw ddarpariaeth o’r Contract yn gweithredu fel ildiad hawl o, neu’n cau allan unrhyw arfer neu orfodaeth pellach ar unrhyw hawl neu ddarpariaeth arall i’r Contract.

21. TORADWYEDD

Mae pob darpariaeth o’r Contract yn doradwy ac yn wahanol i’r gweddill. Bwriada’r partïon bod pob darpariaeth o’r fath yn ddilys ac yn parhau i fod yn ddilys ac yn orfodol i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith. Pe bai, mewn unrhyw achos penodol, y bydd unrhyw un o’r Termau ac Amodau hyn yn cael eu cymryd yn annilys neu nad ydynt yn ymwneud â’r contract, bydd y telerau ac amodau eraill sydd yma yn parhau mewn grym ac effaith llawn.

22. HAWLIAU TRYDYDD PARTI

Nid oes gan berson nad yw’n barti i’r Contract hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partion) 1999 i orfodi unrhyw delerau o’r Contract ond nid yw hyn yn effeithio unrhyw hawl neu welliant gan drydydd parti sy’n bodoli neu sydd ar gael ar wahân i’r Ddeddf honno.

23. RHYBUDDION

23.1 Bydd unrhyw hawliad, rhybudd neu gyfathrebu arall a roddir neu a wneir neu mewn cysylltiad â’r contract, yn ysgrifenedig.

23.2 Ystyrir y bydd unrhyw hawliad, rhybudd neu gyfathrebu o’r fath a roddir neu a wneir yn unol â’r cymal 23 hwn wedi cael ei roi neu ei wneud yn ei bryd fel a ganlyn:

23.2.1 os bydd wedi ei anfon gyda phost dosbarth cyntaf y talwyd amdano ymlaen llaw, ar yr ail Ddiwrnod Busnes wedi diwrnod y postio; neu

23.2.2 os bydd wedi ei ddanfon â llaw, wedi danfon i’r cyfeiriad a ddarparwyd yn y Contract; neu

23.2.3 os bydd wedi ei ddanfon gyda ffacs, ar amser ei dderbyn ym mheiriant ffacs y derbynnydd,

Ac ystyried fodd bynnag, os bydd wedi ei ddanfon â llaw ar ddiwrnod nad yw’n Ddiwrnod Busnes neu ar ôl 4pm ar Ddiwrnod Busnes, ystyrir, yn hytrach, y bydd wedi ei roi neu ei wneud am 9yb ar y Diwrnod Busnes nesaf.

23.3 Bydd unrhyw hawliad, rhybudd neu gyfathrebu arall fel hyn, yn achos gwasanaeth drwy’r post neu ddanfon â llaw wedi ei gyfeirio (yn unol ag y darperir yn y cymal 23 hwn) i’r derbynnydd yng nghyfeiriad y derbynnydd a nodir yn y Contract neu i gyfeiriad arall o’r math y gallai’r derbynnydd fod wedi hysbysu partïon eraill amdano yn ysgrifenedig fel cyfeiriad y derbynnydd ar gyfer gwasanaeth.

23.4 Bydd unrhyw hawliad, rhybudd neu gyfathrebu arall fel hyn, yn achos gwasanaeth drwy ffacs, yn cael ei anfon i’r derbynnydd gan ddefnyddio rhif ffacs mewn cyfeiriad allai (yn unol â darpariaethau o’r fath) fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth drwy’r post.

24. CYTUNDEB CYFAN

Mae’r Contract yn cynnwys y cytundeb cyfan rhwng y partïon ac mae’n disodli unrhyw gytundebau a dealltwriaethau blaenorol rhwng y partïon. Mae’r Prynwr yn cydnabod wrth fynd i Gontract, nad yw’n gwneud hynny ar sail nac yn dibynnu ar, unrhyw gynrychiolaeth, sicrwydd neu ddarpariaeth arall ar wahân i fel y darperir yn un swydd yn y Contract.

25. CYFRAITH AC AWDURDOD LLYWODRAETHOL

Bydd y Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw Gontract yn cael eu llywodraethu neu eu dehongli ym mhob ystyr, yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae’r partïon drwy hyn yn ymostwng i awdurdod cyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.