Gwyl Grefft a Bwyd Glynllifon 2026
Dewch i fwynhau crefftau ac anrhegion, bwyd a diod wedi'u cynhyrchu'n lleol ynghyd â cherddoriaeth fyw a Groto Siôn Corn yn awyrgylch hudolus Parc Glynllifon.
Cynhelir y digwyddiad fel arfer ym mis Tachwedd; bydd dyddiadau gwyl 2026 yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
Mae Adra wedi bod yn gyfrifol am drefnu Gwyl Grefft a Bwyd Glynllifon ers 2019. Mae hon yn ffair Nadolig flynyddol a phoblogaidd iawn sy'n arddangos y cynnyrch Cymreig gorau – crefftau lleol, anrhegion, bwyd a diod. Cyfle perffaith i ddechrau eich siopa Nadolig. Gydag adloniant byw a Groto Siôn Corn hudolus – mae rhywbeth i’r teulu cyfan ei fwynhau.
Wedi'i leoli yn yr ardal o amgylch iard, gweithdai crefft, siop a chaffi Parc Gwledig Glynllifon, bydd dewis eang o arddangoswyr o safon yn eich disgwyl.
Ceisiadau i arddangos yn 2026
Oes ganddoch chi ddiddordeb arddangos yn 2026? Llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb mewn Stondin i gael eich cynnwys ar ein rhestr ebost. Byddwn mewn cysylltiad cyn gynted ag y bydd y ceisiadau ar agor - fel arfer tua diwedd y gwanwyn/dechrau'r haf. (Cofiwch sicrhau fod eich cyfeiriad ebost yn gywir! Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gydag unrhywun arall.)
Cynllunio eich Ymweliad
Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn boblogaidd iawn. Nifer cyfyngedig iawn o lefydd parcio sydd ar y safle a phob blwyddyn rydym yn gorfod troi pobl i ffwrdd. Defnyddiwch y gwasanaeth bws gwennol am ddim o Gaernarfon i osgoi cael eich siomi! Caiff ein meysydd parcio eu stiwardio gan wirfoddolwyr ar ran achosion da lleol. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar a chwrtais mewn adegau prysur.
Dim ond £2 yw cost mynediad i'r ffair (am ddim i blant dan 3 oed).
Oherwydd natur y safle, mae signal ffôn/wifi yn gallu bod yn ansefydlog. Dewch a digon o arian parod efo chi!
Mae gan ein pentref bwyd ddewis eang o fwyd a diod poeth - pizzas, tacos, byrgers, stêcs, mochyn rhost a chrempogau. Bydd gennym hefyd ddigon o fyrddau picnic a pagoda newydd i chi gael mwynhau eich bwyd ym mhob tywydd.
Croesewir cwn da ar dennyn byr, ond efallai y bydd gan denantiaid parhaol gweithdai crefft Glynllifon eu rheolau eu hunain yn dibynnu ar faint eu uned a natur eu cynnyrch.
Edrychwn ymlaen yn arw i'ch gweld!
Sut i gyrraedd yma
Cynhelir Gwyl Grefft a Bwyd Glynllifon ym Mharc Gwledig Glynllifon ar yr A499 ger Caernarfon. Bydd nifer cyfyngedig o barcio am ddim ar y safle, felly rydym yn eich annog i ddefnyddio ein gwasanaeth bws gwennol am ddim o Ffordd Balaclava Caernarfon (ger Bingo Apollo) neu rannu ceir. Mae bws gwasanaeth #12 Caernarfon-Pwllheli hefyd yn stopio reit tu allan i'r parc. Os ydych yn byw yn lleol, mae llwybr cerdded a beicio cyfleus. Neu, beth am i chi ofyn wrth ffrind neu aelod o'r teulu i'ch gollwng a'ch casglu yn hwyrach er mwyn i chi gael siopa'n hamddenol?
Lleoliad y digwyddiad
Dewch o hyd i ni ar yr A499 Ffordd Pwllheli yn:
Parc Gwledig Glynllifon
ger Caernarfon
Gwynedd
LL54 5DY