sul y mamau
Sul y Mamau
Yn ystod y 16eg ganrif, roedd hi’n arferiad i Gristnogion ddychwelyd i’r fam-eglwys am wasanaeth arbennig ar bedwerydd Sul y Pasg. Cai morynion a gweision ganiatâd i ymweld â'r fam-eglwys a’u teuluoedd ar y diwrnod hwn – yr unig wyliau a gawsant fel arfer.
Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, ychydig iawn oedd yn dal i ddathlu’r ŵyl, tan i ddynes o’r enw Constance Penswick-Smith benderfynu adfer y dathliad gyda llawer mwy o bwyslais ar ddathlu mamau a mamolaeth. Erbyn hyn, mae’n dathliadau Sul y Mamau ni wedi eu dylanwadu’n gryf gan y dathliad Americanaidd sy’n cael ei gynnal mis Mai.