O bwmpenni i ganhwyllau, paratowch at yr hydref gydag Adra
Ewch i siopa'n casgliad hydrefolSefydlwyd Adra yn 2007 gan Angharad Gwyn. Mae popeth â werthwn wedi unai eu gwneud yng Nghymru, wedi'u dylunio gan ddylunwyr o Gymru, neu yn amlygu geiriau a sloganau Cymraeg. Maent wedi eu gwneud gan artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bach, annibynnol o bob rhan o Gymru i safon uchel, ac mae nifer o nwyddau'n cael eu creu yma yn Adra fel y medrwch fwynhau casgliadau sy'n arbennig i ni.
Lleolir Adra ar safle hanesyddol Parc Glynllifon ger Caernarfon. Gyda milltiroedd o lwybrau natur trwy'r coed, nodweddion hanesyddol trawiadol a cherfluniau cyfoes - mae'n lle perffaith i ddod am bicnic ymlaciol, i ddod am dro hamddenol neu i dreulio amser gyda'r teulu.