Amdanom Ni

Croeso! Ers ei sefydlu yn 2007, mae Adra yn gwmni sy'n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig trawiadol ar eich cyfer chi a'ch cartref. Sefydlwyd y cwmni gan Angharad Gwyn pan welodd fwlch yn y farchnad am anrhegion a nwyddau Cymreig chwaethus a chyfoes. Gwyddai fod pob math o bethau hardd yn cael eu gwneud yma sy’n haeddu cael eu gweld gan gynulleidfa ehangach.

Mae popeth â werthwn wedi eu canfod yn ofalus yng Nghymru, wedi'u dylunio gan ddylunwyr o Gymru, neu yn amlygu geiriau a sloganau Cymraeg – a dim ond cynnyrch yr ydym wedi syrthio mewn cariad â nhw ein hunain yr ydym yn ei werthu! Maent wedi eu gwneud gan artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bach, annibynnol o bob rhan o Gymru i safon uchel, ac mae nifer o nwyddau'n cael eu creu yma yn Adra fel y medrwch fwynhau casgliadau sy'n arbennig i ni.

Mae ein swyddfa a'n siop wedi'u lleoli ym mhrydferthwch Parc Glynllifon ger Caernarfon. Cliciwch yma am gyfarwyddiadau a'n horiau agor.

Mae Adra'n gwmni cwbl ddwyieithog – mae croeso i chi gysylltu â ni mewn Cymraeg neu Saesneg.

Rydym yn anelu at fod mor eco-gyfeillgar ag sy’n bosibl. Mae ein holl ddefnyddiau swyddfa a phacio, pan fo’n bosibl, wedi cael eu gwneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu, wedi’u hailddefnyddio neu’n ailgylchadwy. Pan na allwn osgoi defnyddio plastig, rydym yn eich hannog yn gryf i’w ail-ddefnyddio yn hytrach na’i daflu ymaith.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, gostyngiadau a chynigion arbennig, ymunwch â'n rhestr ebost, a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Adra yw enw masnachu Adra (Cymru) Cyf.
Swyddfa gofrestredig: Uned 3 Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY.

Rhif Cwmni: 6271008, Rhif TAW: 141194828