anrhegion diolch

Weithiau, mae angen mwy na dweud ‘diolch’ i ddangos gwir werthfawrogiad! Ac mae gan ein casgliad o anrhegion diolch Cymreig ddewis gwych o anrhegion. P’un a ydych yn diolch i athro neu athrawes, cymydog neu gydweithiwr, mae gennym anrhegion unigryw gan rai o wneuthurwyr mwyaf talentog Cymru.

Rhowch anrheg melys gyda siocledi Cymreig, teisen Berffro neu hamper foethus yn llawn blasau lleol. Bydd cannwyll naturiol fwg patrwm carthen yn atgoffa’r derbynnydd o’ch gwerthfawrogiad am amser hir. Does dim i drechu nodyn wedi ei ysgrifennu â llaw - rhowch un o’n cardiau ‘Diolch’ Cymraeg  am gyffyrddiad personol.

Mae ein casgliad yn cynnwys popeth o anrhegion bach fel calon seramig hardd neu sebon wedi’i wneud yn lleol, i setiau anrheg moethus. A drwy ddewis anrheg Cymreig, rydych chi hefyd yn cefnogi busnesau annibynnol Cymreig!