Patrwm carthen

Mae patrwm carthen Caernarfon yn parhau i fod yr un mor boblogaidd ag erioed! Dyma gasgliad arbennig o nwyddau gyda'r patrwm eiconig hwn. P’un a ydych yn chwilio am glustogau, ategolion chwaethus neu flanced glyd, mae ein casgliad arbennig yn defnyddio'r patrwm hanesyddol hwn i greu nwyddau cyfoes – o lestri cegin i nwyddau ysgrifennu.

Mae'r patrwm carthen Cymreig yn ddarn o hanes Cymru, a blancedi patrwm Caernarfon yn draddodiadol yn cael eu gwehyddu mewn melinau gwlân lleol fel Trefriw a Bryncir.

Mae gennym ddewis gwych o nwyddau patrwm tapestri Cymreig gan gynnwys lliain bwrdd oelcloth, matiau diod, a mygiau ar gyfer eich cegin; clustogau, blancedi a chysgodion golau i'r lolfa; yn ogystal â chardiau cyfarch Cymraeg. Porwch drwy ein casgliad heddiw a dewch o hyd i'r anrheg berffaith i’r sawl sy’n caru treftadaeth Cymru.