Parc Glynllifon - cartref Adra
Gyda milltiroedd o lwybrau natur trwy'r coed, nodweddion hanesyddol trawiadol a cherfluniau cyfoes - mae parc gwledig Parc Glynllifon yn lle perffaith i ddod am bicnic ymlaciol, i ddod am dro hamddenol neu i dreulio amser gyda'r teulu. Os oes gennych gi, os ydych yn hoff o fyd natur, yn lonciwr neu'n blentyn chwilfrydig - mae rhywbeth i bawb yma.
Yn gartref i siop Adra, sydd hefyd yn dderbynfa'r parc - talwch y ffi mynediad ar gyfer y gerddi yn y siop neu prynwch aelodaeth blwyddyn arlein yma
Dewch i fwynhau awyrgylch arbennig hen erddi pleser y plasty. Mae gerddi parc Glynllifon yn erddi rhestredig Gradd Un ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Maent yn gartref i beth o'r fflora a'r ffawna mwyaf prin yn y wald, i ddetholiad amrywiol o goed a phlanhigion egsotig ac i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt prin. Yma ac acw yn y gerddi fe welwch ffoleddau sy'n dyddio'n ôl i'r ddeunafwd ganrif ynghyd â cherfluniau a gosodiadau cyfoes.
Pethau i'w gweld a'u gwneud:
- Llwybr coed sy'n nodi 50 o rywogaethau gwahanol
- Helfa drysor a thaflenni gweithgaredd i blant
- Cwrs cyfeiriannu
- Arddangosfa hanesyddol am blas ac ystâd Glynllifon
- Injan stêm hanesyddol
- Caffi, gweithdai creft, digon o le parcio am ddim ar gyfer bysus a cheir.
Oriau agor a ffioedd mynediad:
Tymor yr Haf (1 Ebrill-30 Medi)
Dydd Llun-Sadwrn 10am-5pm
Dydd Sul 11am-4pm
Tymor y Gaeaf (1 Hydref-31 Mawrth)
Dydd Iau-Sadwrn 10am-5pm
Dydd Sul 11am-4pm
Mae gan aelodau'r parc (Ffrindiau Parc Glynllifon) fynediad i'r Parc bob dydd drwy gydol y flwyddyn.
Oedolion £4
Plant £2
Mynediad teulu am ddiwrnod (2+2) £10
Aelodaeth o'r parc:
Oedolyn £25
Plentyn £15
Teulu (2+2) £45
Ariennir y gwaith o gynnal a chadw'r gerddi hanesyddol yn gyfan gwbl o'r ffi mynediad - diolch am eich cefnogaeth! Mae mynediad i'r siop, y caffi a'r gweithdai yn rhad ac am ddim.
Am wybodaeth llawn ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/parcglynllifon
Gweinyddir tocynnau mynediad i Barc Glynllifon gan Adra (Cymru) Cyf ar ran Cyngor Gwynedd. Nid oes gan Adra unrhyw gyfrifoldeb dros reolaeth na gwaith cynnal a chadw'r parc.
Lleoliad:
Mae Parc Glynllifon ger pentref Llandwrog, fymryn oddi ar brif ffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli.
Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, ger Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY
parcglynllifon@gwynedd.gov.uk