*Calendr adfent nifer cyfyngedig - rhaid ei archebu ymlaen llaw erbyn 12 Tachwedd.
Mae Calendr Adfent unigryw Adra yn dychwelyd ar gyfer 2027!
Yn dilyn llwyddiant calendr adfent llynedd, y cyntaf erioed i ni ei greu, mae bag newydd sbon o ddanteithion ar eich y cyfer eleni. Fel popeth rydyn ni'n ei werthu - mae pob eitem yn ein bag adfent naill ai wedi'i wneud yng Nghymru, wedi'i ddylunio gan ddylunwyr o Gymru neu'n amlygu'r iaith Gymraeg. Mae cynnwys y bag yn sypreis, ond os hoffech chi wybod beth sydd y tu mewn, cysylltwch â ni.
Yr hyn fedrwn ni ei ddweud ydy fod 24 o anrhegion Cymreig hyfryd i'w hagor yn y bag. Gallwch eu hagor i gyd ar unwaith, neu agor un bob dydd tan ddiwrnod Nadolig.
Mae pob anrheg wedi'i rifo ac wedi'i ddewis o'n casgliad arbennig o nwyddau Cymreig – o addurniadau i trîts ac atodion defnyddiol, gan gynnwys darnau wedi'u cynllunio gan Adra'n benodol ar gyfer y bag adfent hwn.
Bydd yr anrhegion wedi'u cyflwyno yn ein bag Nadolig gwyrdd gyda logo Nadoligaidd Adra, y gellir ei ddefnyddio bob Nadolig (neu drwy gydol y flwyddyn!) neu ei roi'n anrheg.
Mae pris argymelledig o dros £130 ar gynnwys y bag a chludiant am ddim i'r DU. Gan fod pris y cynnwys eisoes wedi'i ostwng, ni fydd codau disgownt yn ddilys ar bryniannau'r calendr.
Dim ond nifer gyfyngedig o'n calendrau adfent fydd ar gael - a thrwy archebu ymlaen llaw yn unig - felly peidiwch ag oedi! Bydd archebion ymlaen llaw yn cau ar ddydd Iau 12 Tachwedd neu cyn hynny os yw wedi gwerthu allan.
Bydd Bag Calendr Adfent Adra yn cael ei bostio 23 Tachwedd. Gan fod pob un yn cael ei wneud a'i bacio i'w archebu, rhaid eu prynu ar eu pen eu hunain. Fel hyn, gallwn sicrhau diogelwch y cynnwys, osgoi unrhyw oedi wrth anfon a darparu profiad dadbocsio cyffrous i'r derbynnydd!
Gallwch hefyd ddewis casglu'ch archeb o'n siop yng Nglynllifon.
Yn anffodus, ni ellir dychwelyd na chyfnewid y calendr adfent.
Gobeithio eich bod chi'n ei hoffi! Rydym wrth ein bodd â'r Nadolig ac eisiau i chi gael yr un gorau a mwyaf hudolus eto!