Basged Siopa
Cipolwg
Gweld mwy

Anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes

Welsh Blanket Oilcloth, Welsh Oilcloth, Welsh Home Accessories, Adra

Oelcloth Carthen - rholyn 20m, coch

SKU: AD-OILC-RE-ROLL

Ar Sêl

**Gwerth £540 pan yn ei brynu fesul metr. Prynwch rolyn cyfan ac arbed 35%**

Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon mewn lliw coch.

Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes. 100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl sgleiniog o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau.

Lled tua 142cm, hyd y rôl tua 20m. Pan yn mesur eich byrddau, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus. Does dim angen hem arno, a gellir ei dorri'n hawdd â siswrn miniog.

Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

Pris sêl

£540.00

  • - 35%
  • Pris arferol £351.00
    ( / )
    Cludiant am ddim i'r DU Ar archebion dros £60
    100% Cymreig Mae ein holl nwyddau yn dod o weithdai dylunwyr a chrefftwyr mwyaf talentog Cymru