Basged Siopa
Cipolwg
Gweld mwy

Anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes

*EILRADD* Oelcloth Carthen, gwyrdd matt

*EILRADD* Oelcloth Carthen, gwyrdd matt

SKU: AD-2NDS-OILC-MATTGR-1m

Ar Sêl

*Darnau o oelcloth amherffaith a bron yn berffaith*

Mae'r namau ar yr oelcloth yn y casgliad yma'n amrywio; gall fod yn farc mor fach â phen pin i nam mwy amlwg. Edrychwch ar y lluniau am enghreifftiau o'r marciau a all fod ar y darnau. Gall fod y nam/au ar yr oelcloth rydych chi'n ei dderbyn yn wahanol i'r lluniau.

Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu yn arbennig i Adra gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon mewn lliw gwyrdd saets a gorffeniad matt newydd sbon!

100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl matt o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes.

Lled tua 140cm. Pan yn mesur eich bwrdd, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.

Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

Pris sêl

£24.00

  • - 50%
  • Pris arferol £12.00
    ( / )
    Cludiant am ddim i'r DU Ar archebion dros £60
    100% Cymreig Mae ein holl nwyddau yn dod o weithdai dylunwyr a chrefftwyr mwyaf talentog Cymru