dydd santes dwynwen a san folant
Mae'r Cymry'n genedl ramantus! Rydym yn dathlu ein nawddsant cariadon ein hunain - Santes Dwynwen ar Ionawr 25, yn ogystal â San Folant ar Chwefror 14! Ewch i bori'n casgliad eang o gardiau rhamantus a syniadau anrhegion ar gyfer Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Folant.
Pwy oedd Dwynwen?
Tywysoges Gymreig o’r 4edd ganrif oedd Dwynwen. Ni chafodd lawer o lwc â chariadon felly penderfynodd fod yn lleian ar Ynys Llanddwyn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Gweddïai y byddai cariadon eraill yn cael gwell lwc na hi. Mae olion eglwys Dwynwen i'w gweld hyd heddiw.
Y llwy garu Gymreig
Mae'r llwy garu Gymreig yn anrheg rhamantus poblogiadd. Mae'r traddodiad yn bodoli ers canrifoedd ble byddai dynion ifanc yn cerfio llwyau cain o bren i'w cyflwyno i'w cariadon a'u darpar wragedd. Mae gwahanol symbolau yn golygu gwahanol bethau - pedol am lwc, clychau ar gyfer priodas, calonnau am gariad, clo ar gyfer diogelwch ac yn y blaen. Mae ein casgliad o anrhegion llwy garu yn cynnwys fersiynau cyfoes o'r traddodiaol o gardiau i gelf, siocled a gemwaith.