Oelcloth Carthen, sampl am ddim

Oelcloth Carthen, sampl am ddim

SKU: AD-OIL-SAMP-RE

Ar Sêl

Angen help i ddewis lliw eich oelcloth? Archebwch sampl am ddim!

Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu yn arbennig i Adra gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon. 100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes.

Mae lled ein oelcloth sgleiniog - tua 142cm, a lled ein oelcloth matt tua 140cm. Pan yn mesur eich bwrdd, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.

Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

Barod i archebu eich oelcloth? cliciwch yma i ddewis lliw a hyd.

*Dim ond un sampl o bob lliw i bob cwmser*

Pris sêl Pris arferol £0.00
( / )
 Mwy o opsiynau talu