Basged Siopa
Cipolwg
Gweld mwy

Anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes

Oelcloth Carthen, Coch
Oelcloth Carthen, Coch
Ar Sêl

Oelcloth Carthen, Coch

SKU: AD-OILC-RE-1m

Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu yn arbennig i Adra gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon mewn lliw coch.

100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl sgleiniog o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes.

Lled tua 142cm. Pan yn mesur eich bwrdd, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.

Angen help i ddewis lliw eich oelcloth? Cliciwch yma i archebu sampl am ddim.

Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.

Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

  • -0%
  • Pris arferol £27.00
    ( / )
    Cludiant am ddim i'r DU Ar archebion dros £50
    100% Cymreig Mae ein holl nwyddau yn dod o weithdai dylunwyr a chrefftwyr mwyaf talentog Cymru
    Welsh
    Welsh