Beth yw cynhwysion yr hamper Gymreig berffaith?

Beth yw cynhwysion yr hamper Gymreig berffaith?

Mae prynu anrhegion i ffrindiau a theulu’n mynd yn anoddach bob blwyddyn, oherwydd ein bod ni i gyd bellach yn dueddol o brynu’r hyn ydyn ni ei eisiau drwy gydol y flwyddyn. Ond rydyn ni'n dal eisiau dathlu achlysuron arbennig boed yn benblwydd, priodas, cartref newydd neu wrth ddangos ein gwerthfawrogiad.

Felly, beth ydych chi’n ei brynu i ddathlu'r cerrig milltir hynny? Wel hamper Gymreig foethus yn llawn danteithion blasus o Gymru, wrth gwrs! 😉

Rydyn ni wedi gweithio’n galed ar ein casgliad o hamperi er mwyn cynnig rhywbeth at ddant pawb!

Beth am ddechrau gyda’n hoff hamper o’r casgliad, sef ein Bag hamper moethus. Pan rydych chi eisiau anrheg arbennig o’r radd flaenaf, dyma’r hamper i chi.

Wedi’i chyflwyno yn ein bag jiwt llwyd arbennig, mae’r hamper hon yn llawn dop o ddanteithion melys a sawrus gan rai o brif wneuthurwyr bwyd Cymru, gan gynnwys Poblado, Wickedly Welsh, Halen Môn, Tregroes, Blasus, Calon Lân, Cradoc's, Aberffraw, Jones & Co a Phaned Gymreig. Dwi ddim yn meddwl y byddai’n bosib gwasgu mwy i mewn iddi!

Yn gyfuniad perffaith o’r traddodiadol (ee bara brith a Theisen Berffro) a'r cyfoes (ee coffi Poblado ac Halen Môn), mae modd ailddefnyddio’r bag fel bag siopa chwaethus, a gorau oll, mae danfoniad yn rhad ac am ddim.

Ar gyfer cyllidebau canolig, mae Hamper Clasuron Cymru eisoes yn ffefryn gan ddilynwyr Adra. Os mai eich syniad chi o fwyd Cymreig 'clasurol' ydy cennin, bara brith, teisen gri a bara lawr – byddwch wrth eich bodd â hon! Wedi'u cyflwyno yn ein hamper ddu a’i glymu â rhuban, dyma'r hamper berffaith i’r rhai sydd ag ychydig o hiraeth am Gymru.

Os am rywbeth ychydig llai traddodiadol a mwy cyfoes, mae ein Hamper Fawr Gymreig yn cynnwys coffi rhost Eryri, siocled Cocoa Pzazz a marmaled rym.

Mae ein Set Anrheg Pampro yn berffaith ar gyfer hyrwyddo hunanofal ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer noson o fwynhad pur.

I’r rhai ohonom sydd am wario dim mwy nag £20, mae ffefrynnau’n cynnwys Hamper fach Gymreig, Hamper Gymreig Teisen gri ac ein Hamper Gymreig bara brith. Cyllideb isel, ond ansawdd uchel.

Ac yn olaf, mae ein anrhegion blwch llythyr yn cychwyn ar ddim ond £4.50 ac yn cynnig rhywbeth ar gyfer pob achlysur, p’un a ydych yn prynu ar gyfer penblwydd, babi newydd neu i godi calon ffrind da.

A dyna ni ddetholiad o hamperi arbennig Adra. Gobeithiwn y byddwch yn eu caru cymaint ag yr ydym ni.


Post H?n Post Mwy Newydd