Mae ein oelcloth trawiadol wedi'i argraffu yn arbennig i Adra gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes.
Mae oelcloth Adra wedi'i wneud o 100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl matt o ansawdd uchel. Peidiwch â chael eich twyllo gan liain bwrdd eilradd a rhatach!
Beth ydy oelcloth?
Yn ôl yn y 18fed ganrif roedd oelcloth yn cael ei gynhyrchu drwy orchuddio cynfas neu liain gydag olew had llin wedi'i ferwi i greu ffabrig oedd yn dal dŵr ac yn wydn.
Mae oelcloth modern yn cael ei wneud drwy orchuddio cotwm trwchus gyda haen o feinyl (neu PVC) fel arfer.
Fodd bynnag, mae rhai cwmnïau'n defnyddio'r term 'oelcloth' i ddisgrifio unrhyw ffabrig sy'n gallu cael ei olchi â chadach, ond peidiwch â chael eich twyllo! Feinyl gwyn plaen wedi'i argraffu gyda phatrwm neu ddyluniad arbennig ydy lliain bwrdd PVC - does yna ddim haen i'w warchod, felly bydd y patrwm yn pylu gydag amser.
Sut i fesur a dewis y maint cywir
Lled ein oelcloth ni ydy tua 140cm.
Mesurwch eich bwrdd mewn cms. Cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon i hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.
Felly, os mai maint eich bwrdd ydy 120 x 180cm, byddem yn argymell eich bod yn dewis 2m o hyd i gael yr un faint yn hongian bob pen a phob lled i'r bwrdd.
Os oes gennych fwrdd bach yn mesur tua 80 x 100cm, byddem yn argymell eich bod yn dewis 1m o hyd. Ni fydd yr un faint o liain yn hongian dros bob ymyl o'r bwrdd, ond mae'n anhebygol y byddech yn sylwi, ac mae'n hawdd ei dorri gyda siswrn miniog pe bai angen.
Sut i ofalu am eich oelcloth
Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio.
Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.
Os nad yw'r oelcloth ar y bwrdd drwy gydol y flwyddyn, mae modd ei blygu, ond cofiwch ei agor a'i ailblygu'n rheolaidd. I gael gwared ar farciau plygu styfnig, smwddiwch yr ochr tu chwith gyda haearn cynnes (nid poeth).
Angen help i ddewis lliw eich oelcloth?
Ewch i brynu un o'n pecynnau sampl.
Barod i fynd amdani?
Ewch amdani! Mae ein oelcloth carthen arbennig ar gael mewn 3 lliw cyfoes. Mewn stoc ac yn barod i'w anfon. Cludiant am ddim ar archebion dros £60.