Oelcloth Carthen, Coch
Oelcloth trawiadol wedi'i argraffu gyda phatrwm carthen Cymreig Caernarfon.
100% cotwm trwchus gyda haen o feinyl sgleiniog o ansawdd uchel sy'n gwneud lliain bwrdd ymarferol a chwaethus sy'n hawdd i'w lanhau. Perffaith ar gyfer unrhyw gartref neu fusnes.
Lled tua 142cm. Pan yn mesur eich bwrdd, cofiwch ychwanegu 20-25cm bob pen er mwyn caniatau digon iddo hongian dros ochr y bwrdd yn daclus.
Mae oelcloth yn ddeunydd sy'n para'n hir ac yn gwrthsefyll y rhan fwyaf o staeniau, ond bydd beiro, minlliw, farnis ewinedd a pholish esgidiau yn staenio. Gall cyrri, tomato a phrint papur newydd hefyd ei farcio. Rydym yn argymell eich bod yn glanhau unrhyw golledion bwyd neu ddiod yn syth gyda chadach tamp ac ychydig o hylif golchi llestri. Peidiwch a gosod dysglau y syth o'r popty ar yr oelcloth.
Dyluniwyd a chynhyrchwyd yn arbennig i Adra

