dydd gŵyl dewi
Ymunwch yn y dathliadau dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, gyda'n casgliad o nwyddau a chardiau cenedlaetholgar.
Dewi Sant
Ganed Dewi Sant yn y flwyddyn 500 ar glogwyn mewn storm! Ei daid oedd Ceredig ap Cunedda, Brenin Ceredigion.
Sefydlodd Dewi Sant eglwysi ac aneddiadau mynachaidd yng Nghymru, Llydaw a Lloegr. Dilynodd fywyd syml a honnir iddo fwyta cennin ac yfed dŵr yn unig; efallai mai dyma pam ddaeth y genhinen yn symbol cenedlaethol yng Nghymru.
Bu farw Dewi Sant ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi – ym 589, ac fe'i gladdwyd ar safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Yn ei araith olaf dywedodd: 'Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.’ Mae’r ymadrodd yma'n dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.